Llwyddiant dwbl i ddoniau Ensemble Cymru

Mae wedi bod yn wythnos nodedig ar gyfer dwy o sêr ifainc Ensemble Cymru, sef Collette Astley-Jones a Llinos Elin Owen, wrth iddynt ddathlu cael swyddi newydd, cyffrous!

Stori Llinos

Cafodd Llinos ei swydd gyntaf gydag Ensemble Cymru, Ensemble Preswyl ym Mhrifysgol Bangor a Venue Cymru, fel baswnydd proffesiynol fwy na deng mlynedd yn ôl. Yn ystod y cyfnod hwn, bu Llinos yn cymryd rhan yn gyson yng nghyngherddau’r Ensemble, gan berfformio’n fwyaf diweddar ar daith genedlaethol Pedr a’r Blaidd.

Yn awr, mae gan Llinos swydd newydd i’w hychwanegu at ei CV cynyddol, am ei bod newydd gael ei phenodi’n is-brif faswnydd gyda Sinfonia’r Bale Brenhinol, sef cerddorfa Bale Brenhinol Birmingham.

Wrth drafod ei swydd newydd, meddai Llinos: “Ar ôl chwarae ar fy liwt fy hun am fwy na deng mlynedd, mae’n wych o beth fod gen i’r sicrwydd o gontract parhaol. Rwyf eisoes wedi cael fy rhaglen waith, felly rwy’n gwybod yn union beth y byddaf yn gweithio arno am y flwyddyn nesaf, sy’n wych, am fy mod bellach yn gallu ffitio fy ngwaith arall o gwmpas hyn. Rwy’n mwynhau’n wirioneddol yr amrywiaeth a ddaw o weithio gyda grwpiau ac ensembles gwahanol, ac mae’r swydd hon yn rhoi’r rhyddid imi wneud hyn o hyd, tra bo gen i hefyd y sicrwydd o waith am 35 wythnos y flwyddyn.”

Mae’r gwaith caled eisoes wedi dechrau i Llinos, am y bydd hi’n perfformio fel rhan o gerddorfa 65-darn Sinfonia’r Bale Brenhinol yn Sadler’s Wells, Llundain, yn ystod Ebrill, fel rhan o gynhyrchiad o Ddefod y Gwanwyn a Petrushka gan Gwmni Dawns y Fabulous Beast.

Gan hanu’n wreiddiol o Bwllheli ond yn byw bellach yn Swydd Gaerwrangon, cododd Llinos fasŵn am y tro cyntaf pan oedd yn 13 oed, ac nid yw wedi’i roi i lawr oddi ar hynny! Meithrinwyd ei dawn gerddorol o oedran cynnar, am i’w nain, a hithau’n gerddor dawnus, ddysgu Llinos i chwarae’r piano pan oedd hi’n bedair oed. Gellwch ddarllen bywgraffiad llawn Llinos yma. Gellwch ddarllen bywgraffiad llawn Llinos yma.

Stori Collette

Mae Collette yn aelod arall o deulu Ensemble Cymru a wnaeth waith eithriadol, yn fwyaf diweddar fel rheolwr cerddorfaol ar gyfer taith genedlaethol Pedr a’r Blaidd. A hithau ond newydd orffen ei gradd Meistr mewn Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor fis Hydref diwethaf, nid yw wedi cymryd llawer o amser i ddawn Collette gael ei hadnabod o fewn y diwydiant, am iddi gael ei phenodi’n ddiweddar gan Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl yn Cynorthwy-ydd Cynllunio Artistig ac Ensemble.

Dyma Collette yn dweud wrthym beth y bydd yn ei wneud yn ei swydd newydd: “Byddaf yn gweithio gyda’r tîm cynllunio artistig a hefyd gyda’r tîm rheoli cerddorfaol, a’m swydd i yw’r cyswllt rhwng y ddau. Felly, byddaf yn ymwneud â’r gwaith o gynnal yr ymarferion a’r cyngherddau, hefyd yn edrych ar ôl yr unawdwyr a’r arweinyddion ond, ar ben hynny, yn cynghori’r tîm artistig ynglŷn ag unrhyw agweddau ymarferol o safbwynt rheoli cerddorfaol.”

“Ni allai’r amseriad fod yn well, gan y byddaf yn gorffen fy interniaeth gyda Sinfonia’r Southbank yn Llundain ddydd Gwener, ac yna’n cychwyn yn fy swydd newydd yn Lerpwl ddydd Llun!”

Cafodd Collette ei phrofiad cyntaf o reoli cerddorfa tra oedd hi’n fyfyrwraig yn Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor. Yn ystod y cyfnod hwn, daeth hi’n rheolwr llwyfan ar gyfer Cerddorfa’r Brifysgol a’r Gymdeithas Gerdd, lle roedd hi hefyd yn gadeirydd. Dechreuodd Collette hefyd ymwneud ag Ensemble Cymru tra oedd hi yn y Brifysgol, yn gyntaf fel gwirfoddolwr, ac yn ddiweddarach ar ôl ennill interniaeth gyda’r Ensemble fel rhan o’i hysgoloriaeth Meistr, fel yr eglura: “Oherwydd fy niddordeb mewn rheoli cerddorfeydd, cynigiodd Ensemble Cymru gyfle imi gynorthwyo yn ei gyngherddau. Dechreuais trwy helpu yn y gwaith o reoli llwyfan a digwyddiadau’r Ensemble yn y gyfres Cerddoriaeth ym Mangor, a symud ymlaen wedyn i weithio ar y teithiau, yn cynnwys taith genedlaethol Dyfroedd Byw yn 2011 a thaith Pedr a’r Blaidd yn gynharach eleni. Bu’r profiad a gefais trwy Ensemble Cymru yn amhrisiadwy, ac mae wedi golygu fy mod wedi gallu cymryd y cam cyntaf mewn diwydiant y gall fod yn anodd i rywun gychwyn ynddo.”

“Rydym ni i gyd yn hynod o falch ynglŷn â llwyddiant haeddiannol dau aelod o deulu Ensemble Cymru”

Roedd Cyfarwyddwr Artistig Ensemble Cymru, Peryn Clement-Evans, yn awyddus i longyfarch Llinos a Collette ar eu llwyddiannau diweddar, gan ddweud: “Rydym ni i gyd yn hynod o falch ynglŷn â llwyddiant haeddiannol dau aelod o deulu Ensemble Cymru, sef Llinos Owen a Collette Astley-Jones. Mae wedi bod yn bleser pur gweld gyrfa Llinos fel baswnydd yn mynd o nerth i nerth ers iddi gychwyn gyda ni fel aelod o ddosbarth 6 Ysgol Gerdd Chethams amser maith yn ôl. Mae Ensemble Cymru yn hynod o falch y bydd Llinos yn parhau’n gysylltiedig â’r Ensemble fel prif faswnydd. Ers i Collette ddod atom sawl blwyddyn yn ôl tra oedd yn fyfyrwraig ym Mhrifysgol Bangor, mae hi bob amser wedi dangos brwdfrydedd enfawr dros ddod yn rheolwr ar gerddorfa; does dim llawer ers iddi wneud gwaith gwych yn rheoli’r gerddorfa ar gyfer taith Pedr a’r Blaidd a wnaeth yr Ensemble (mis Mawrth 2014). Rydym yn dymuno pob llwyddiant i Collette a Llinos yn eu swyddi cyffrous newydd.”