Amdanom

FAQ

Pwy yw Ensemble Cymru?

Mae Ensemble Cymru yn gorff a sefydlwyd yn 2001 er mwyn hyrwyddo’r perfformiad o gerddoriaeth siambr.  Mae gan swyddfa Ensemble Cymru ym Mhrifysgol Bangor ddau aelod o staff a Swyddog Datblygu yng Nghaerdydd.  Llywodraethir  y corff gan bump o ymddiriedolwyr sy’n gwirfoddoli eu hamser a’u hegni er mwyn cefnogi’r staff a pherfformwyr wrth iddyn nhw ddod â cherddoriaeth i bobl o bob oedran ledled Cymru.

Beth yw Ensemble?

Mae Ensemble yn grwp o gerddorion clasurol sydd fel arfer yn rhy fach i gael ei alw yn gerddorfa.  Mae Ensemble Cymru yn perfformio mewn grwpiau rhwng un ac ugain o gerddorion.

Pam Ensemble Cymru?

Rydym yn defnyddio’r enw Ensemble Cymru oherwydd mae’r enw yn ymddangos i ni fel un sydd yn adlewyrchu ein cenhadaeth i hyrwyddo cerddoriaeth siambr o bedwar ban byd yng Nghymru a cherddoriaeth siambr Cymru i bobl yng Nghymru a thu hwnt.

Pam ydych chi’n elusen gofrestredig

Rydym am i bobl o bob oedran ac ardaloedd yng Nghymru brofi’r cyfoeth o gerddoriaeth siambr yng Nghymru a cherddoriaeth siambr o bedwar ban byd.  Er mwyn gwireddu hyn rydym yn dibynnu ar haelioni unigolion, ymddiriedolaethau a chyrff cyhoeddus.   Mae elusen gofrestredig yn gallu hawlio 20c o’r dyn treth ar ben pob £1 sydd cael ei rhoi i ni gan drethdalwr. Fel elusen mae unrhyw elw o’n gweithgareddau yn mynd syth yn ôl i mewn i fwy o weithdai i ysgolion, mwy o  berfformwyr mewn neuaddau cymunedol a mwy o gyfleoedd i berfformwyr ifanc a rheolwyr celfyddydau y dyfodol trwy ein cynlluniau profiad gwaith. Bob blwyddyn mae Ensemble Cymru yn cyhoeddi ei adroddiad blynyddol ar safle we’r Comisiwn Elusennau

Sut y galla i gael mwy o wybodaeth am yr Ensemble?

Pwy bynnag ydych chi os oes gennych chi gwestiwn byddwn ni’n gwneud ein gorau glas i’w ateb.  Gallwch gysylltu â’r swyddfa drwy lenwi’r ffurflen gyswllt ar y safle we neu drwy ffonio 01248 383 257 rhwng 8:30yb a 12:30yp yn ystod yr wythnos.  Gellwch gofrestru ar ein rhestr e-bost er mwyn derbyn diweddariadau ar ein gweithgareddau a’n perfformiadau.  Os ydych chi’n cynrychioli’r cyfryngau neu os ydy’ch cwestiwn yn bwysig yna bydd croeso i chi ffonio 07817 721 250 tu allan i oriau gwaith.

Beth mae Ensemble Cymru yn ei wneud?

Fel corff rydyn ni’n gwneud ystod eang o weithgareddau…

Cyngherddau Cyhoeddus

Boed o yn gyngerdd coffi yn Venue Cymru neu daith genedlaethol rydym yn dod â cherddorion at ei gilydd er mwyn perfformio rhaglen o gerddoriaeth.  Gall fod yn ddatganiad gan ddau gerddor neu daith genedlaethol gyda dau ar bymtheg o gerddorion.  Rydyn am i’n cyngerddau fod yn ysbrydoledig, yn addysgiadol ac yn gyfeillgar.

Addysg

Yn Omnibws y Cyngor Celfyddydau mae’n datgan bod llai na un plentyn mewn deg yng Nghymru erioed wedi profi perfformiad byw o gerddoriaeth glasurol.  Mae ein cerddorion yn gweithio i ymestyn eu hangerdd am gerddoriaeth siambr ymlaen i’r genhedlaeth nesaf o gynulleidfaoedd, cyfansoddwyr, athrawon a cherddorion trwy gyngherddau addysgiadol sydd yn hwyliog ac yn anffurfiol i filoedd o blant bob blwyddyn yn cynnwys plant a phobl ifanc ag anghenion arbennig a blynyddoedd cynnar.

Hyfforddiant a Dosbarthiadau Meistr

Boed yn berfformiwr ifanc neu yn rhywun sy’n ystyried gyrfa mewn rheolaeth y celfyddydau, mae Ensemble Cymru yn aml yn cynnal gweithgareddau sydd yn cefnogi pobl ifanc wrth iddyn nhw ddatblygu eu gyrfaoedd.

Estyn allan

Rydym yn teimlo’n angerddol am estyn allan i bobl sydd yn cael trafferth mynychu perfformiadau byw neu yn gweithio gyda cherddorion siambr.  Hosbisau, ysbytai, canolfannau dydd – rydyn ni wrth ein bodd yn mynd o gwmpas gyda pherfformiadau o gerddoriaeth sydd ymysg y gorau.

Rheolaeth Prosiect

Rydym yn aml yn rheoli prosiectau celfyddydol ar ran cyrff eraill gan ddod â gweithdai gan feirdd, cerddorion, cyfansoddwyr i leoliadau cymunedol ac ysgolion ar draws Cymru.

Yn Cyfrannu at Ddatblygu Polisi

Rydym yn ymateb i alwadau am ymatebion i ymgynghoriadau a all gael effaith ar gerddoriaeth a’r Celfyddydau yng Nghymru a thu hwnt fel y bo’n briodol.

Gawn ni gerddoriaeth fyw ar gyfer digwyddiad?

Gallem eich helpu chi yn uniongyrchol neu fel arfer rydym ni’n gallu’ch cyfeirio i’r lle iawn yn dibynnu ar natur y digwyddiad.

Sut galla i gyfrannu at yr achos?

Mae’na ystod eang o ffyrdd gall rywun gyfrannu at yr achos fel rhoddwr, gwirfoddolwr neu ymddiriedolwr.  Gyrrwch ebost atom ni gan ofyn am wybodaeth i wirfoddolwyr a gwnawn anfon pecyn gwybodaeth atoch chi.  Pe carech chi gael eich ystyried fel darpar ymddiriedolwr yna cofrestrwch eich diddordeb yma os gwelwch yn dda.